BARN ARCHDDIACON ABERTEIFI AM Y WASG GYMREIG.—Wedi i'r hen glerigwyr ymneillduedig fyned ymaith, aeth eu holynwyr i ddechreu rhoddi addysg eu hunain i'r ymgeiswyr yn eu mysg am y weinidogaeth. Ymffurfiasant i drefniant rheolaidd, ac yn raddol gwasgarasant eu hymdrechiadau o'r pulpud at yr ysgol, ac at y wasg—ac nid heb lwyddiant gyda y naill a'r llall. Maent yn dysgu y bobl i ddarllen yn eu Hysgolion Sabbothol, ac y maent yn porthi eu harchwaeth gynyddol a llenyddiaeth gylchgyhoeddiadol mewn modd cyfaddas i'w hanghenion. Gan ddeall fod eu nerth yn dibynu llawer ar ymlyniad y Cymro at iaith ei wlad, maent yn feunyddiol yn gwneuthur y dafodiaith yn gymhwysach at bob amcan llenyddol—ac y mae y bobl yn galw am yr ymdrech hwn. Yr wyf yn deall fod pedwar o eirlyfrau newyddion, Cymraeg a Saesoneg, yn y wasg yr awr hon. Gallaf chwanegu fod y wasg Ymneillduol yn Nghymru, yn ol fy marn i, yn cael ei hynodi gan ragoriaeth amlwg ar y cyhoeddiadau sydd yn cael eu rhoddi allan dan nawdd yr offeiriaid. Yn mysg y rhai diweddaf nid wyf yn gweled dim a ellir eu cymharu i'r Amserau a'r Traethodydd.—Llythyr at Esgob Tyddewi, dyddiedig Mawrth, 1848.
JUBILEE VICTORIA, 1897.
Tyrodd parch i'n Victoria,—y forwyn
Fawrwych, hir deyrnasa;
A'i choron dyrch, a'r enw da
Ynddi'n em y flwyddyn yma.
—Ioan Eifion.
Argraphwyd gan W. Gwenlyn Evans, Caernarfon.