Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae drwg-dybiau yn mhlith meddyliau, fel ystlumod yn mhlith yr adar—nid ydynt yn dyfod allan un amser ond yn y cyfnos.

Y mae y diafol a nerth marwolaeth ganddo, nid fel llywodraethwr neu farnwr, ond yn unig fel dienyddwr.

"Ni fynwch ddyfod ataf fi fel y caffoch fywyd." Ni fyn miloedd ddyfod at Iesu Grist yn y byd hwn; ond cofier, rhaid myned ato yn y farn.

Yr hwn nid yw yn meddwl ond yn anfynych am. y nefoedd, nid yw yn debyg o fyned yno, oblegid yr unig ffordd i gyraedd y nôd yw cadw y llygad yn sefydlog arno.

A GYFANSODDWYD MEWN CYSTUDD.

Angau, drwy arfau'r oerfel,—a'm rhoes
I eisoes yn isel;
Er hyn, Duw gwyn, os da gwêl,
Estyna einioes Daniel.

Cenin, Eifionydd.—Daniel Roberts.

Rhyfyg ydyw anturio i berygl yn ddiachos. Anturiodd y patriarchiaid, a llawer o'r prophwydi a'r apostolion, y merthyron a'r cenhadon, i beryglon mawrion: ond bydd ganddynt hwy reswm i'w roddi am hyny yn y farn: ond pa beth fydd dy reswm di, a beth wyt ti yn ei enill o anturio y fath berygl ofnadwy ag o golli dy enaid?

Beth sydd i'w ddisgwyl, mewn difrif, oddiwrth ymladd â Duw? Pa beth a geisi di? Anturiodd cedyrn Dafydd i berygl i gyrchu dwfr o bydew Bethlehem; ond cyfrifai y brenin y dwfr hwnw yn