Y CRYD.
Cwch un bach yn cychwyn byw yn hafan
Nefol mebyd ydyw;
A Duw, mewn cariad menyw,
Yn nerthol lŷn wrth ei lyw.
Ioan Môn.
Mae casineb, yn gystal a chariad, yn ddall.
Ni wna can' mlynedd o ymofidio dalu dimai o ddyled.
Y mae Cenfigen yn saethu at ereill, ac yn archolli ei hun.
Peth ynfyd iawn ydyw cario heddyw flinderau yfory a threnydd.
Nid oes un ddynes hagr yn gwybod ei bod yn hyll hyd nes y byddo rhyw fwystfil o ddyn yn dyweyd hyny wrthi.
Y MEL.
Sugn melus a ganmolaf—yw y Mêl,
Fel y maeth pereiddiaf:
Yn ei ddîl y nôdd welaf,
Wedi 'i hel hyd flodau haf.
—Tudwal.
Y mae y tafod yn myned at y dant dolurus.
Y mae y dyn doeth yn rhoddi terfyn ar ei ddigofaint.
Dywedir am yr ysgorpion, os cynheuir cylch o dân o'i chwmpas, y colyna ei hun i farwolaeth. Felly y gwna Cenfigen, pan amgylchynir hi â llwyddiant un arall.