Y mae y Cristion, mewn perthynas i bechod, yn dymuno tri pheth: sef, cyfiawnhad, fel na byddo pechod yn euogfarnu; sancteiddhad, fel na byddo yn teyrnasu; gogoneddiad, fel na byddo yn bod.
Os collwch eich anadl, peidiwch rhedeg i chwilio am dano; chwi a ddeuwch o hyd iddo yn llawer cynt wrth sefyll yn llonydd.
YR YSGOLFEISTR.
Diwyd agorwr deall,—sigla fyd,
Yw'r Ysgolfeistr diball :
Heb draha cywira wall,
A sieryd wrth oes arall.
—Hywel Cernyw.
Dywedodd Jerusha wrth Eseciel na wnai hi ei briodi os na wnai ef arwyddo yr ardystiad dirwestol, ac felly efe a arwyddodd ddau. Gofynodd Jerusha iddo paham yr oedd yn gwneyd hyny; ac atebodd Eseciel yn ddiniwed ei fod wedi arwyddo dau, fel, os digwyddai iddo dori un, y gallai er hyny gadw y llall.
Nid oedd holl ddyfroedd y dylif, er boddi byd euog, yn gallu dangos casineb Duw at bechod mor eglur ag yr oedd un dyferyn o'r gwaed a dywalltwyd ar y groes.
Gall un cam gwâg, un arferiad drwg, un cyfaill llygredig, un egwyddor benrhydd, ddinystrio eich holl ragolygon, a siomi holl obeithion y rhai sydd yn eich caru.
Gofynwyd i hen ŵr duwiol, pa fodd yr oedd yn gallu goddef ei ofidiau mor dawel: "Ysgafnheir y ddyrnod," meddai, "trwy wasgu yn nes at yr hwn y mae y wialen yn ei law."