Yr unig ddyn i'w ofni ydyw y dyn nad yw yn ofni Duw.
Mae un dyferyn o gysur oddiwrth Dduw yn fil gwell nag afonydd o hyfrydwch y creadur.
Peidiwch byth ag ofni gwneuthur yr hyn sydd iawn. Nid yw yr hwn sydd yn ceisio boddhau pawb yn boddhau neb.
GWEDDI.
Cri gwylaidd cywir galon—yw Gweddi
O egwyddor union :
Hi ddyrch mewn ffydd ei heirchion,
A gras ddwg o orsedd Ion.
—Eifionydd.
DARLLEN Y LLYFR. — Darfu i ddyn oedd newydd gyhoeddi cyfrol fechan o ganeuon gyfarfod Mr. Jones yn ddiweddar, a chymerodd yr ymddiddan canlynol le: "A ddarllenasoch chwi fy llyfr?" "O! do, darllenais ef i gyd." "Sut yr oeddych yn ei hoffi ?" "Fy anwyl syr, gallaf eich sicrhau fy mod wedi ei osod o'r neilldu gyda llawer iawn o bleser !"
Os gadewi iddynt osod y llô ar dy ysgwyddau, nid hir yr arosant cyn gosod y fuwch yno hefyd.
Nid oedd raid i'r llofrudd yn y ddinas noddfa fyned adref i ymofyn lluniaeth, yr oedd yno ddigon ar ei gyfer; ni raid i neb sydd yn Nghrist fyned allan ohono i ymofyn cynhaliaeth.
Y mae yn iawn i anifail wneuthur ei oreu o'r byd hwn—ei fyd ef ydyw. Ond dynion ydym ni—y mae anian byd arall ynom: tragwyddoldeb yw elfen ein gwlad gartrefol.