Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Duw sydd yn gwellau, ond y meddyg a gaiff y clod.

Y mae hen ddynion yn myned at farwolaeth, ond marwolaeth yn dyfod at ddynion ieuainc.

Dylem gofio na bydd crefydd yn y capel yn ddim ond oferedd, os na bydd crefydd yn ein tai a'n cartrefleoedd.

Mae cri yr edifeiriol am faddeuant trwy waed yr Oen yn bereiddiach yn nghlustiau y Goruchaf na pheroriaeth swynol telyn yr archangel.

YR IESU.

Y Gŵr waedodd i'm gwaredu—â gwir
Serch garaf fawrygu:
Yn y tân yn enaid du,
Y buaswn heb Iesu.
Parch. W. Nicholson.


Un ffordd i roddi lle i ddiafol yw bod yn ddiofal a difater yn ei gylch. Os mynwn beidio rhoddi lle i ddiafol y mae yn rhaid i ni ofalu am wrthwynebu pechod ynom ein hunain mewn modd neillduol. Os mynwn fod yn filwyr da i Iesu Grist, a pheidio rhoddi lle i ddiafol, y mae yn rhaid i ni wisgo arfogaeth Duw, ïe, a'r holl arfogaeth.—R. Jones, Llanllyfni.

"A ddangosasoch y cyfrif i'ch dyledwr?" ebai cyfreithiwr wrth ddyn ag oedd yn ei osod ar waith i godi dyled, "Do, syr," atebai y dyn. "Wel, pa beth a ddywedodd wrthych ?" "Dywedodd wrthyf am fyned at y diafol." "A pha beth a wnaethoch chwithau wedi hyny ?" "Myfi a ddaethym atoch chwi, syr."