Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhaid i chwi faddeu llawer o gamweddau mewn ereill; ond na faddeuwch un camwedd ynoch eich hun.

Y mae'n hyfryd i farw â'n pen ar fynwes Crist, a bod yr enaid yn cael ei gusanu ymaith o'r corph gan wefusau cariad Dwyfol. —Spurgeon.

Mae gwir rinwedd yn debyg i afon—po ddyfnaf y byddo, lleiaf oll ydyw ei sŵn.

Nid ydyw o nemawr bwys mewn cydmariaeth pa fodd y trinir dyn oddiallan gan ereill: y mater pwysicaf iddo ef ydyw, pa fodd y llywodraethir ef oddimewn ganddo ef ei hun.

Boreu teg a fydd dydd cyfodi o'r bedd i'r Cristion. Diosga ei arfogaeth, a cheidw ei darianau, ei esgidiau, a'i gleddyf. Pan gyfoda yn y boreu, nid esgidiau rhyfel, ond esgidiau gogoniant a wisga; nid cleddyf, ond palmwydd ; nid gweddio a gwylio, ond gwaeddi, Iachawdwriaeth i'n Duw ni, a chanu y gân newydd. ——Christmas Evans.

I BOB EFFAITH Y MAE ACHOS.

Mae rhyw Un mawr a hynod—Ei duedd,
A deall diddarfod,
Yn y gorchwyl o'n gwarchod;
A dyna ben—Mae Duw'n bod!
Robyn Ddu Eryri.


Darfu i wraig briod, yn ddiweddar, ymgynghori â'i chyfreithiwr ar y cwestiwn cywrain canlynol :Gan fy mod wedi priodi Mr. Green er mwyn ei gyfoeth, a'r cyfoeth hwnw yn awr wedi ei wario; onid ydwyf, yn mhob ystyr, yn weddw, ac at fy rhyddid i briodi rhywun arall?