Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae yn fwy dyogel i ddyn farnu yn ffafriol am ei gyd—ddynion.

Nid yw y galon falch byth yn ffrwytho mwy na'r mynydd uchel.

Y FUWCH.

Gan y Fuwch ceir cig yn faeth,—a 'menyn,
I'n mynych gynaliaeth,—
Caws, gwêr, a llawnder o'i llaeth,
I gynal bri coginiaeth.
Gwyneddon.

PREGETH Y FLWYDDYN.—Yn fy ymweliad byr â'r ddaear, gwelais gyfnewidiadau mawrion: gwelais rew ac eira, oerni a gwres, haf a gauaf, ystormydd a thawelwch; gwelais y dail yn blaguro, a gwelais hwy eilwaith yn syrthio; siglais gryd i dorf aneirif o blant, ac agorais feddau i gynulleidfa o feirwon. Bûm yn dyst o olygfeydd rhyfeddol ar y tir ac ar y môr. Yn awr, gwrandewch arnaf fi, chwi blant Amser. Bûm unwaith yn ieuanc a heinyf: trwsiais fy hun â choronbleth o ddail, fy anadl oedd awelon haf, fy ngwên oedd gwrid y wawr; medais y cynhauaf melyndeg, cesglais y grawnwin a chnydau y winllan. Ond yn fuan teimlais gysgodion nos marwolaeth yn hongian dros fy aeliau; fy nyddiau a aethant yn fyrach, fyrach. Cesglais gyfoeth, ond nis gwn pwy a'i mwynha. Adeiledais dai, ond nis gwn pwy a'u preswylia. Nid ydwyf ond ymwelydd â'r ddaear o fyd mawr yr ysbrydoedd. Farwolion! prynwch yr amser: nid yw eich bywyd ond tarth yn cilio. Wele fi yn myned. Mae yr awrlais bron ar ddeuddeg. Daethum o dragwyddoldeb, a dyma fi yn myned i dragwyddoldeb. Ffarwel! Ffarwel!!D. Oliver Edwards.