MOR COCH.—Yr oedd ffordd y Mor Coch yn ddyogel i Israel; ond pan aeth Pharaoh iddi, collodd ei fywyd; 'doedd dim busnes ganddo fyned iddi—Private road a agorodd Jehofah i'w family ei hun ydoedd.
Y DYNGED AR OL MARW.
Fe ddaw dydd barn—barn heb wyrni:—f'enaid,
Yn mha fan y byddi?
Ai yn y nef? ni wni!
Ynte rhan mewn trueni!
—Eben Fardd.
Dyn ieuanc, yr hwn oedd aelod gyda'r Wesleyaid a feddyliodd ei fod wedi ei alw i bregethu, ond yr oedd ei gyfeillion o feddwl gwahanol, ac yn fynych a wrthwynebasant iddo barhau i wasanaethu. Dygwyddodd i Mr. Wesley ymweled a'r lle yn yr amser yna, pryd y darfu i rai o'r aelodau gwyno wrtho yn nghylch awyddfryd y dyn ieuanc hwn. Pan glybu Mr. Wesley hyn, efe a gynygiodd iddo gael dewis ei destyn, a phregethu o'i flaen ef, i'r hyn y cytunwyd; o ganlyniad, Mr. Wesley a eisteddodd y tu ol iddo yn y pwlpud. Yn ystod ei bregeth, y dyn ieuanc a ddwyfol gynorthwywyd gymaint, fel y tybiodd Mr. Wesley yn sicr ei fod wedi ei alw i'r gwaith, ac a'i hanogodd i ddal ati. Wedi i Mr. Wesley adael y lle, cyfeillion y dyn ieuanc a ofynasant iddo pa fodd yr aeth trwyddi mor dda, "Myfi a ddywedaf i chwi," ebai efe, "mi a osodais Dduw o'm blaen, a Mr. Wesley y tu oli mi; a thrwy y moddion hyny y gwnaethym." Oddiwrth hyn sylwodd un o'i gyfeillion mai felly y dylai pob pregethwr wneuthur, hyny yw, gosod Duw o'i flaen, a dyn o'i ol.