Dywed un dyn enwog mai y geiriau mwyaf anhawdd eu llefaru ydynt, "Gwnaethum gamsynied." Ysgrifenodd Ffrederick Fawr at ei Senedd, wedi colli brwydr bwysig, "Collais y frwydr, ac arnaf fi fy hunan yn hollol yr oedd y bai." Dywed Goldsmith fod yr addefiad yna wedi gosod mwy o anrhydedd arno na'r holl frwydrau a enillodd yn ystod ei fywyd. Na fyddwn yn rhy falch i addef bai lle byddo.
BEDDARGRAPH Y CYBYDD.
Yn y bedd hwn Cybydd huna,—un fu
Fwya'i fâr am elwa;
Aur oedd ei dŵr a'i dduw da:
Ysgydwch bwrs 'e goda !
—Gwilym Cowlyd.
CYFLOG PECHOD YW MARWOLAETH.—Y mae pechod yn talu ei weision trwy eu cosbi. Cofiwyf amgylchiad yn fy hanes pan yn fachgen sydd wedi bod i mi fel dameg o'r gwirionedd difrifol hwn. Gwahoddwyd fi, gyda dau neu dri ereill o fechgyn a gyd-chwareuent a mi, gan ddyn i'w ardd; a dododd i ni, gyda ein bod i mewn, dasg bob un, gan addaw i ni geiniogau wedi ei gorphen. Yr oeddym yn barod iawn i roddi i fyny ein chwareu gyda'r rhagolwg o enill cyflog! Gweithiasom yn galed a dygn am oriau. Wedi gorphen ohonom y dasg a ddodwyd i ni, aethom at y gwr am ein ceiniogau. Yn lle y ceiniogau, tynodd roden o'r gwrych, a rhoddodd hi gyda nerth creulon ar draws ein hysgwyddau; a gorfuwyd ni i ddianc nerth ein traed. Fel hyn y mae pechod yn talu cyflog i'r rhai a'i gwasanaethant yn ffyddlon!—Parch. A. J. Parry.