Dywed Darwin fod un acer o dir porfa yn cynwys chwe' mil ar hugain o bryfed.
SEREN Y GOGLEDD.
Seren wir dêg, llusern ar dŵr—y nen,
Siriola nos gwyliwr;
Mynegfys, ar ddyrys ddw'r,
O law angel, i longwr.
—Morwyllt.
Un tro, cwympodd boneddiges i'r afon, a llwyddodd bachgen tlawd i'w hachub. Pan gafwyd hi i'r lan yn ddyogel, estynodd ei gŵr swllt i'r bachgen dewr. Ar waith rhai o'r edrychwyr yn dangos anfoddlonrwydd yn ngwyneb crintachrwydd ei phriod, dywedodd y bachgen, wrth roddi y swllt yn ei logell: "Peidiwch beio y boneddwr—efe a ŵyr oreu beth yw ei gwerth: feallai, pe buaswn heb ei hachub, y buasai yn rhoddi sofren imi!"
Y DYFODOL.
Du gyfnod yw'r dyfodol,—y caddug
A'i cuddia ef bythol;
Deall gair o'i dywyll gôl
Ni fedra y ddawn feidrol.
—R. Williams (Trebor Cybi.), Talysarn.
HEB DDERBYN ENLLIB.—Yr oedd Dr. Johnson unwaith yn nghwmni merched oedd yn siarad yn anmharchus am foneddigesau oedd yn absenol. Un ohonynt a ddywedodd fod ei chyfeilles yn arfer paentio ei gruddiau, pan y sylwai y Doctor: "Hwyrach, wedi y cwbl, mai mwy diniwed ydyw i foneddiges gochi ei gruddiau ei hun na duo cymeriadau pobl ereill."