SANCTEIDDRWYDD A DEDWYDDWCH.—Na fydded i ni byth wahanu yr hyn a gysylltodd Duw yn nghyd; bywyd sanctaidd yma, ac un nefol rhagllaw. Rhaid i ni yn awr "rodio gyda Duw," os mynwn fyw byth gydag Ef. Trwy deyrnas gras a sancteiddrwydd yn unig y gallwng gyrhaedd teyrnas y gogoniant.
CYFNEWIDIAD.
Hyd odreu Penrhyndeudraeth—caf nodion
Cyfnewidiad helaeth:
Caws, menyn, ac hwsmonaeth,
A llwybr y trên, lle bu'r traeth.
—Dewi Havhesp.
Y mae y ferch yn priodi y tro cyntaf oherwydd ei bod yn caru; yr ail dro oherwydd fod arni eisiau cartref; ac y mae yn awyddus am roddi trydydd prawf os bydd gan y dyn ddigon o arian.
YR YMGNAWDOLIAD.
Y nef wen a'i hanfonodd, a'r Iesu
O'i ras ymgyflwynodd:
Duw o'i gariad a'i gyrodd
I'r daith fawr, a daeth o'i fodd.
—Cynhaiarn.
DYFAL-BARHAD.—Fe fu Syr Isaac Newton yn hir iawn yn ceisio allan y ddeddf sydd yn gwregysu creadigaeth Duw. Yr oedd y creadur bach yn ceisio taflu codwm â'r greadigaeth fawr yma. Yr oedd yn cael ei droi i lawr o hyd; yntau yn ei threio drachefn; ond o'r diwedd, dacw fe â'i draed yn ngafael â'r ddaear, a'i ysgwydd yn erbyn y lleuad, yn rhoi tro iddi, ac yn tynu yr allwedd, ac yn ei chrogi wrth ei wregys, gyda pha un y gall agor holl demlau'r ffurfafen.—Parch. W. Rees, D.D., Liverpool.