Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PREGETHWR MAHOMETANAIDD.—Un diwrnod esgynodd Moold, y pregethwr, i'r areithfa yn y deml (mosque) a dywedodd wrth ei wrandawyr: "O! blant ffyddlawn, a wyddoch chwi beth yr wyf yn myned i'w ddyweyd?" Atebasant ef: "Na wyddom." Dywedodd yntau: "Wel, nid yw o un pwrpas i mi wastraffu fy amser ar dyrfa o bobl mor ystyfnig." Dranoeth esgynodd i'r areithfa drachefn, a dywedodd: "O! wir Fahometaniaid, a wyddoch chwi beth wyf yn myned i'w ddyweyd?" Dywedasant hwythau wrtho heddyw: "Gwyddom." "Yna," ebe yntau, "nid oes angen i mi ddyweyd wrthych." Y trydydd dydd, wele y pregethwr i fyny eto, ac yn gofyn yr un cwestiwn. Meddyliodd y bobl y buasent yn ei ddal y tro hwn, a dywedasant: "Y mae rhai ohonom yn gwybod, a rhai heb wybod." Atebodd yntau: "Wel, gwnaed y rhai sydd yn gwybod ddyweyd wrth y rhai nad ydynt yn gwybod."

CRIST YN GETHSEMANE.

Un hwyrnos yn ei hoerni—bu'n lesu'n
Benisel mewn gweddi;
Ac yno'n wan gan gyni
Chwysai 'i waed o'm hachos i.
Ioan Brothen.


SANCTEIDDRWYDD.—Sancteiddrwydd ydyw gogoniant y Jehofah mawr. Y mae yn ardderchog mewn mawrhydi, yn alluog mewn nerth, yn anrhydeddus mewn cyfoeth, ond yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd. Gan mai sancteiddrwydd ydyw prif ogoniant y Duwdod ei hunan, nid ydyw yn un iselhad ar bryfyn deudroed i arddel yr un peth.—Parch. William Morris, Tyddewi.