HYNOD FOESGAR.—" Syr, a ydych yn meddwl dyweyd fy mod yn siarad anwiredd?" gofynai person un tro i foneddwr Ffrengig. "Nac ydwyf, syr, nid wyf yn dweyd hyny: ond, syr, yr wyf yn dweyd eich bod yn cerdded llawer o gwmpas y gwir.
GWIRIONEDD.
Y Gwir, fel aur ac arian,—drwy y ffwrn
Dra phoeth ni chyll gyfran;
Di-dwyll mae'n myned i dân,
A di-dwyll yn do'd allan.
—Gwalchmai.
Mewn cyfarfod perthynol i'r Feibl Gymdeithas yn Llundain, gofynai y diweddar Barch. T. Jones, Llundain—yr hwn oedd i bregethu yn nghyfarfod blynyddol y gymdeithas—pa un a fyddai ddoethaf iddo, ai darllen ei bregeth ai ynte ei thraddodi allan, fel arfer. "Gwell i chwi ei darllen," atebai y Parch. Ddr. Wilks; "ond cofiwch am ddigon o'r tân Cymreig ynddi." "Y mae papyr," sylwai un brawd, "yn anghymwys i gario tân ynddo." "Y mae hyny yn wir," atebai Dr. Wilks; "ond y mae yn rhagorol at gyneu tân."
Y BEIBL.
Gair Duw byth yw y gwir di ball,—iach rad,
Ni chredaf i arall;
Gair Duw egyr y deall,
Gair Duw rydd olwg i'r dall.
—Gutyn Peris.
Y mae y rhai hyny sydd yn credu y gall arian wneyd pob peth, yn fynych yn barod i wneyd pob peth am arian.