Ni chlywais ond am ddau le dyogel iawn erioedy nefoedd a'r llwch, ac o'r ddau braidd na feddyliwn nad y llwch yw y mwyaf dyogel. Clywais am rai wedi syrthio o'r nefoedd, ond ni chlywais am neb a syrthiodd o'r llwch erioed.—Parch. Morgan Howells.
Y BARDD PAN YN GLAF.
'Rwy'n glaf, a'r gauaf sy'n gwywo—fy nerth,
Fy nydd sydd yn cilio;
'Rwy'n disgyn i'r glyn dan glo—
Cledd anwyd a'm clodd yno.
—Deiniolfryn.
Un tro safai y Parch. R. Jones, Llanllyfni uwchben bedd gwr ar a gyflawnodd hunanladdiad, gyda dyben o ddweyd gair.—"Wel," meddai, "yr wyf wedi bod yn dweyd gair wrth lawer bedd, uwchben pob math o gymeriadau, o bob gradd ac oed, yn wŷr a gwragedd, ieuanc a hen, rhai duwiol ac annuwiol ond nis gwn yn iawn beth i'w ddweyd wrth ben bedd fel hyn. Y mae angau wedi dyfod at hwn yn wahanol i bawb arall. Y mae angau wedi dyfod trwy ddrws y cefn at hwn, am hyny yr wyf fi yn tewi."
Y NOS.
Y nos bruddaidd gan sobreiddiaw—y byd
Fel y bedd ddaeth heibiaw:
Dwyster ei mawredd distaw;
Y ser drydd i siarad draw.
—Dewi Glan Peris, Dinorwig
DYLANWAD ARGYHOEDDIAD.—Y mae y dyn a fo wedi derbyn gwir argyhoeddiad, gan nad i ba le y crwydra, yn sicr yn y diwedd o ddyfod yn ol at ei egwyddorion cychwynol.—Parch. J. Frimston.