GWEITHREDOEDD TRUGAROG IESU GRIST YN Y BYD.—Dywedir i Columbus rhyw ddiwrnod ddyfod o hyd i ryw ddeilen ar y traeth; fe gododd y ddeilen, ac fe edrychodd arni, ac fe ddeallodd Columbus yn y fan ei bod hi wedi tyfu mewn rhyw ran o'r byd na wyddai efe ddim am dano. Fe osododd y ddeilen yn ei fynwes, ac fe fethodd a gorphwys nes myned â'r ddeilen yn ei fynwes i'r fan lle y tyfodd yn y dechreu. Felly am y gweithredoedd trugarog a gyflawnodd Iesu Grist ar y ddaear, dail ydyw y rhai hyn wedi eu hysgwyd oddiar bren y bywyd: paid a'u sathru dan dy draed, ond bydded i ti eu codi a'u gosod yn dy fynwes, yna hwy änt a thi adref i'r wlad lle y maent yn tyfu yn ffrwythydd aeddfed, ac yn crogi yn rawnsypiau mawrion yn ngwlad gogoniant.Parch. Owen Jones, Dowlais.
DANIEL AR Y FFORDD I'R FFAU.
Ai'r hen weddiwr hynod—tua'r ffau
Trwy ffordd hoffai'r Duwdod;
D'wedai ffydd mai ufydd òd
I Dduw'r lluoedd yw'r llewod.
—Ioan Deudraeth.
ARWYDDION O FFYDD.—I'r rhai sydd yn credu y mae Crist yn werthfawr, y gair yn felus, pechod yn chwerw, gweddi yn hyfryd, y saint yn anwyl, crefydd yw eu gorchwyl, y byd yn eilun drylliedig, angeu yn groesawus. Y rhai sydd yn credu y mae Crist ganddynt yn eu calonau, nefoedd yn eu llygaid, a'r byd o dan eu traed. Ysbryd Duw yw eu harweinydd, ofn Duw yw eu ceidwad, pobl Dduw yw eu cymdeithion, addewidion Duw yw eu diddanwch, sancteiddrwydd yw eu ffordd, a'r nefoedd yw eu cartref.—Cyf. T. R. J., Bagillt,