RHEOL I DDEWIS GWR.—Eliza Embert, boneddiges ieuanc yn Persia, a lwyr benderfynodd wrthod boneddwr gyda'r hwn yr oedd i ymbriodi, oblegid iddo ddirmygu crefydd. Wedi iddi roddi cerydd hynaws iddo, atebodd, "Nad allai dyn o'r byd ddim bod mor hen ffasiwn a pharchu Duw a chrefydd." Eliza a ddychrynodd! Ond wrth ddychwelyd ati ei hun, dywedai, "O'r munyd, syr, y deallais i nad ydych yn parchu crefydd, yr wyf fi yn peidio a bod yn eiddo i chwi." Yr hwn nad yw yn caru ac yn anrhydeddu Duw, ni all garu ei wraig yn ffyddlawn a chywir.
GWEN.
Ryfedd wên, llwyr foddineb—arni geir
Yn goron anwyldeb;
Ei cham—ddeall ni all neb,
Daw â'r enaid i'r wyneb.
—Madog.
Ceisiodd un anog Esgob Hooper i ymwrthod â'i gredo yn hytrach na dyoddef merthyrdod, gan ddyweyd, "O, syr, ystyriwch fod bywyd yn felus, a marwolaeth yn chwerw." "Ydynt," atebodd y merthyr gwrol "ond mae bywyd tragwyddol yn fil melusach, a marwolaeth dragwyddol yn anrhaethol chwerwach:" felly efe a aeth yn amyneddgar at y stanc; ac yn y 80 flwydd o'i oedran, dywedir iddo drengu yn y fflamau, mor dawel a phlentyn yn ei wely.
CENFIGEN. Poenir y dyn cenfigenus, nid yn unig gan yr holl ddrygau a ddyoddefir ganddo ef ei hun, ond gan yr holl dda a fwynheir gan ereill. Gwneir ef yn bruddaidd, nid yn unig gan ei gwmwl ei hun, ond gan lewyrch haul ereill.