Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cred in UNIG.—Y mae marchnad wedi ei chyfodi gan Dduw er delio â phechaduriaid. Y man yr agorwyd hi oedd yn y Prynedigaeth, y nwydd a gynygir yw bywyd tragywyddol, a'r term i'w gael yw "Cred yn unig."—Parch. Foulk Evans, Machynlleth.

YR ADDA DIWEDDAF.—Ni chollasom hi oll yn yr Adda cyntaf, ond gwyliwn ei methu gyda'r Ail; oblegid hwn yw y diweddaf—nid oes un i ddyfod ar ei ol. Os misiwn ni hwn, misio'r last train am byth i fywyd tragywyddol fydd hi.—Parch. Joseph Thomas, Carno.

ESBONIAD GWERTH EI GOFIO.—" A llefarasant bob un wrth ei gymydog." Y felldith sydd yn dilyn lluaws crefyddwyr yr oes hon ydyw eu bod yn llefaru bob un am ei gymydog, ac nid wrth ei gymydog. Mwy o lefaru wrthynt, a llai am danynt, a wna les.

DYDD Y FARN.

Dydd i'r Anfeidrawl Fythawl fod—gynal
Gogoniant Ei hanfod,—
Heb ail na thebyg yn bod
Yn nyddiadur ei Dduwdod!
Gwilym Alltwen.


ENAID.—Canwyll ydyw yr enaid nas gall rhuthriadau corwyntoedd marwolaeth ei rhoddi allan—nad oes digon o ddwfr yn yr Iorddonen i'w diffodd, na digon o dân yn uffern i'w llosgi. Sylwedd ydyw nad oes digon o bryf yn uffern i'w ddifa—nas gall meithder tragywyddoldeb ei falurio—tonau tanllyd digofaint ei dreulio—na thragywyddol bwys gogoniant ei lethu.—Parch. R. Davies, Tre Taliesin.