CHWEDL AM Y PARCH. ROWLAND HILL.—Pan oedd y Parch. R. Hill unwaith yn ymdeithio wrtho ei hunan, ymosodwyd arno gan leidr penffordd, yr hwn, trwy gryndod ei lais a'i ddull, a ymddangosai yn ieuanc yn ei alwedigaeth. Ar ol rhoddi i'r dyn ei arian a'i oriawr, cywreinrwydd a barodd iddo ei holi am yr achosion a wnaeth iddo gymeryd y fath orchwyl peryglus. Cyfaddefodd y dyn yn rhwydd ei fod allan o waith, a bod ei wraig a'i blant ar drengu o newyn, ac i anobaith ei yru yn ysbeiliwr; ond mai dyma y weithred gyntaf o'r fath a gyflawnasai efe. Mr. Hill wedi ei daraw gan gywirdeb amlwg y dyn, ac yn teimlo am ei gyfyngder, a hysbysodd iddo ei enw, a pha le yr oedd yn byw, ac a barodd iddo alw gydag ef dranoeth. Y dyn a wnaeth felly, ac a gymerwyd yn ddioed i wasanaeth y duwinydd dyngarol hwn, lle yr arosodd hyd ei farwolaeth. Ac nid amlygodd Mr. Hill yr amgylchiad i neb, hyd oni adroddodd efe y cwbl yn y bregeth angladd a bregethodd efe ar farwolaeth ei was.
Dywedai Mrs. Harris wrth ei gŵr (cenhadwr yn Burma), "Gwyddoch nad oes arnaf ofn marw. Mi a ymdrechais tra bûm yn Burma i ddysgu y Careniaid pa fodd y dylai Cristion fyw: yn awr, yr wyf yn hyderu y gallaf ddangos iddynt sut y gall Cristion farw."
Dywedai Mrs. Harris wrth ei phlant, "Peidiwch a meddwl am danaf yma," gan bwyntio i'r ddaear; "ond meddyliwch am danaf gerbron gorseddfainc Duw a'r Oen." Wedi dewis ei dillad bedd, a'u rhoddi am dani, diangodd ei hysbryd gerbron yr orseddfainc.