Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cawsom ddifyrwch neillduol un diwrnod wrth glywed bachgen gwledig yn ateb nifer o fechgyn oedd o'i gwmpas. Gofynodd iddynt, "Pa beth sydd debycaf i haner cosyn?" Dechreuodd y bechgyn ddyfeisio yn uniongyrchol. Dywedai rhai mai y lleuad, ereill mai haner maen llifo; ond rhoddasant i fyny cyn hir. "Ond yr haner arall, y ffyliaid," ebe y gofynydd.

ERFYNIAD.

Trwy y niwl at Ior y nen—ni awn oll,
Yn awr, mewn gwir angen:
A'th dyner law, Dad Awen,
O! gwylia Di ein gwlad wen.
Gutyn Arfon.


"Wele yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd." Pregethwch Grist beth bynag; cysylltwch bob peth â Christ, efe a wnaiff y tro i bechadur. Cedwch y drws yn ddigon llydan i bechaduriaid ddyfod ato ef; gwell ei cholli hi yr ochr hono na'r llall. Byddwch yn fwy am bethau nag am eiriau. Darllenais am henafiaid Groeg y byddai eu dywediadau yn fyr ac yn gynwysfawr: rhoddent fôr o fater mewn dyferyn o eiriau. Mae rhai yn dda am baentio y derw a'r ffawydd, fel yr ymddangosant yn hardd; ond gweithio y coed eu hunain yw y goreu. Goreu po leiaf o baent fyddo genym yn ein pregethau—sylwedd wnaiff y tro.—Wm. Charles.

Y DEDWYDD.

O fôr, o faenor, o fynydd,—agos
O eigion afonydd,
Y daw Duw, ar hyd y dydd,
A da i adail y Dedwydd.
Sion Tudur.