Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANESYN CHINEAIDD.—Yr oedd gan Kin-Tsong, brenin Tsi, geffyl a werthfawrogai ac a hoffai yn fawr; yr hwn a fu farw drwy ddiofalwch y gwas. Y brenin yn ei gynddaredd a ymaflodd mewn gwaewffon i'w drywanu yn y fan. Yn ffodus, yr oedd Iyan Tsi yn bresenol ar y pryd."Fy arglwydd," meddai, "fe fydd y dyn farw mewn anwybodaeth o echryslonrwydd ei drosedd." "Wel," ebe y brenin, "argyhoedda ef yn gyntaf." Cymerodd Iyan y waewffon, a chan droi at y troseddwr, dywedodd: "Fab anffodus! gad i mi ddangos i ti fawredd dy drosedd. Yn gyntaf, yr wyt wedi achosi marwolaeth ceffyl a ymddiriedwyd i'th ofal, am hyny rhaid i ti farw. Yn ail, achosaist i'w Fawrhydi fyned i'r fath dymher, nes yr oedd yn ei wylltineb am dy ladd. Y mae y trosedd yma yn fwy na'r cyntaf. Yn ddiweddaf, fe glyw pawb drwy'r deyrnas, yn nghyda'n cymydogion, fod ein harglwydd y brenin wedi rhoi cyd-greadur i farwolaeth o achos ei geffyl, trwy yr hyn y mae yn sicr o golli ei enw da. Dyna dy drosedd mwyaf. Mor erchyll yw canlyniadau dy ddiofalwch! A ydwyt yn awr yn eu canfod yn eglur?" "Gad iddo fyw," ebe y brenin, " yr wyf yn maddeu iddo." Bu y dull doeth hwn yn foddion i ateb dyben cosb trwy argraphu drwg y weithred ar feddwl ereill, a sicrhau na wnelai y gwas mo'r drwg ond hyny, a thueddu y brenin i faddeu.

DIM.

Dim! o Ddim, yn ddiamau,—lluniwyd
Holl anian a'i throellau;
Dim ydyw dyn, briddyn brau,
Ow! fenaid, Dim wyf finau.
Edyrn o Fon.