GWAED AC ATHRYLITH.—Pan glywom son am ŵr o athrylith, mawr fydd yr awydd ynom am wybod ei hanes, a'r anhawsderau oedd ar ei ffordd i gyraedd enwogrwydd; canys yn mysg dosbarth o ddynion y mae mwyaf o atalfeydd ar ei lwybrau y mae mwyaf o athrylith yn gyffredin. Nid llawer o wŷr y "gwaed uchel" sydd yn feibion athrylith. Y mae eithriadau anrhydeddus i hyn, y mae'n wir, ond eithriadau ydynt. Er profi y gosodiad hwn, ni raid i ni ond edrych i ddau Dŷ Seneddol Prydain Fawr; canys yn y lleoedd hyny, mae'n debyg, y mae mwyaf o gyfleustra i foneddigion, neu deulu y "gwaed," ymgyfarfod o un man yn y deyrnas ond yn mha le y mae yr athrylith? A geir yn mhlith yr un nifer o gyfreithwyr, o ddadleuwyr, o feddygon, neu o bregethwyr, cyn lleied o ddynion o wir athrylith ag sydd yno? Neu, a oes yn mysg ein beirdd a'n peroriaethwyr gynifer o ddynion mor ddiamcan i gyflawni y gwaith y cymerant arnynt ei wneuthur, ag a geir yn Senedd Prydain Fawr? Prin y mae yno un yn mhob haner cant a all wneyd fawr fwy o orchest na thraddodi rhyw araeth ar ol ciniaw: y mae ymaflyd mewn pwnc y bydd eisieu athrylith i'w drafod yn hollol o'u cyraedd. Os mynir cael rhywbeth a sylwedd ynddo, rhaid myned i chwilio am feibion athrylith, y rhai a geir agos bob amser wedi hanu o blith y canolradd a'r iselradd. Nid oedd gan Syr R. Peel fawr o "waed" i ymffrostio ynddo; a'r un peth ellir ei fynegu am Joseph Hume, John Bright, G. Thompson, W. J. Fox, a Richard Cobden; nid ar eu "gwaed," ond ar eu hathrylith y mae y gwŷr hyn yn pwyso. Beth oedd gan (Arglwyddi) Eldon, Lyndhurst, Denman, Campbell, ac ereill, i ymddiried ynddo ond eu hathrylith? Dichon fod
Tudalen:GemauDoethineb.djvu/87
Gwedd