Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Un tro yr oedd Siencyn Penhydd mewn ymddiddanion â'r blaenoriaid. Yr oedd yr hynaf a'r blaenaf ohonynt yn achwyn ar y sychder a'r syrthni gyda hi, ac yn ymddangos fel pe buasai wedi colli tir yn ei ysbryd gyda chrefydd, oddiwrth y peth y gwelwyd ef. Torodd Siencyn allan yn danbaid, gan ddywedyd, "Jack, Jack, hoga dy gryman: hoga dy gryman, Jack. Ti yw y medelwr blaenaf yn y fan hyn, er's llawer blwyddyn bellach; ac yn wir, chwareu teg, medelwr go dda hefyd. Ond yn awr, y mae'r peth yn wahanol; y mae bwlch yn dy gryman. Eto, mi dy gynghoraf di i fyned a dy gryman i'r maen y bûm i wrtho y boreu heddyw: fe ddaw hwnw ag ef i awch eto." Yna, gyda llais dyrchafedig, gwaeddodd, "Jack, hoga dy gryman, onide fe ddaw Arglwydd y fedel i dy droi oddiar y grwn, am dy fod ar y ffordd i fyned yn y blaen." Dywedir fod yn anmhosibl darlunio effeithiau y dywediad uchod ar y brawd ei hun, ac ar y cyfarfod yn gyffredinol. Yr ydoedd fel pe gwefrasai yr Hollalluog bob cnawd.

I'R HAUL.

Golau eurawg leuerydd,—ëwn, tanbaid,
Tywynboeth olwynydd;
Planed losgawl, ysplenydd,
Pair o dân yn peri dydd.
Eryron Gwyllt Walia.


Gorsedd GRAS.—Os ydwyt yn wir Gristion, y mae gorseddfainc y gras yn eiddo i ti. Dy Dad sydd yn eistedd arni. Dy Waredwr a'i taenellodd â'i waed ei hun. Yr Ysbryd Glân sydd yn dy ddirgel—dynu i ben—linio o'i blaen; a phan yr wyt yno, yr addewid i ti ydyw, "Lleda dy safn, a mi a'i llanwaf." John Newton.