GWELL I DDUW DORI I NI.—Ychydig iawn o ddynion sydd yn gwybod y ffordd i drin cyfoeth heb fyned yn lythion ac yn feilchion, na byw mewn tlodi heb gablu. Ymddiried yn Nuw am ddigon o fara, dogn dydd yn ei ddydd, yw y bywyd mwyaf cysurus ar y ddaear; myned i'r nefoedd rhwng y ddau. Mi gefais y dorth unwaith gan fy Nhad nefol, a dywedodd wrthyf, "Dyna—tor drosot dy hun;" ond wrth dori, mi a dorais fy nwylaw, collais y dorth, a syrthiais i ofidiau mawrion. Gwelir peth felly weithiau: yr ydym yn meddwl y gallem drefnu pethau yn hapus ein hunain; ond yn y man dacw bethau yn myned yn ddiflas rhwng ein dwylaw. Arglwydd, tòr di dafell, ddydd yn ei ddydd, bellach hyd fy marw. Carve thou for me, O Lord! "Na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â'm digonedd o fara."—Y diweddar Barch. Morgan Howells.
CRIST Y MEDDYG PERFFAITH.
Pob cur a dolur, drwy'r daith,—wellheir
Yn llaw'r Meddyg perffaith:
Gwaed y Groes a gŵyd y graith,
Na welir mo'ni eilwaith.
—Ioan Madog.
Y PREGETHWR INDIAIDD.—Pan yr oedd y Parch. Mr. Kirkland yn genhadwr at yr Oneidas, yr oedd efe un prydnawn Sabboth yn ei deimlo ei hun yn analluog i bregethu gan anhwyldeb; ac efe a ddywedodd wrth un o'r Indiaid dychweledig, a elwid Peter Dda, fod yn rhaid iddo ef anerch y gynulleidfa. Yr oedd Peter yn dra anfoddlawn a hwyrfrydig i fyned at y gwaith; ond o'r diwedd boddlonodd mewn ufudd—dod i Mr. Kirkland, ac wedi peth rhagymadrodd, dechreuodd gyfeirio sylw ei wrandawyr at Iesu Grist. "Pa beth, fy mrodyr,"