Neidio i'r cynnwys

Tudalen:GemauDoethineb.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddai, "yw eich golygiadau chwi am yr Iesu? Chwi a atebwch, hwyrach, ei fod yn un hynod am ei garedigrwydd, a bod hyny i'w weled yn y gwyrthiau a wnaeth. Yr oedd, yn y cwbl, meddwch, yn dirion iawn. Fe wnaeth i fara borthi miloedd oedd ar lewygu. Fe gyfododd o farw i fyw fab i wraig weddw, i'r hon yr oedd ei lafur yn angenrheidiol er ei chynal mewn henaint. Felly, fy mrodyr: ac ai dyna eich holl syniadau am y Gwaredwr? A ydych chwi yn gweled ynddo ddim mwy na dyn rhyfedd am ei garedigrwydd? Os felly, mae genych feddwl rhy fach am dano. Gwrandewch: pan ddaeth Iesu i'r byd yma, efe a daflodd ei wrthban o'i gwmpas, ond yr oedd y Duw oddifewn—yr oedd y Duw oddifewn!"

YR YRFA YSBRYDOL.—Yr wyf yn eich cynghori i beidio rhoi gorphwysdra i'ch enaid, na hûn i'ch amrantau, hyd nes byddoch wedi cael hyd i ryw beth a wyneba, ac a ddeil y dymhestl. Ni ddaw pawb adref erbyn nos o'r sawl a dybiant eu bod wedi troi eu hwynebau at y nefoedd; a llawer a redant yn gyflym, o'r rhai a fethant y gamp. Miloedd a dwyllir ac a gywilyddir am eu gobaith. Mi a welaf fod proffes gyffredinol, ac enw yn mysg dynion, yn awr, yn cael ei ystyried yn ddigonol i gludo proffeswyr i'r nefoedd.

GORPHENWYD.

Gorphenwyd cafwyd y cyfiawn—Aberth,
Gobaith i'r anghyfiawn;
Tros enaid du rhoes uniawn,
Drwy ei loes anfeidrol Iawn.
Cennin