Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yno cai gwrdd â'i chyfoedion hoff,
Yno 'roedd pobpeth a feddai swyn.
Wrth brysuro meddyliai pwy
O'i chyfeillesau a ddoi i'r ŵyl,
A phwy yno fyddai deca'i gwisg-
Pwy gynyrchai fwyaf o hwyl.
Wrth roi ateb parod a phert
I gyfarchiadau y llanciau llon-
A phwy o'r bechgyn gai'i harwain hi
At fwrdd y ddiod a'r "deisen gron"!

Gwelai'i hunan ar lawnt y dre
Yn arwain y ddawns yngŵydd y llu,
Gwelai eiddigedd ar lawer gwedd,
A chlywai y gymeradwyaeth hy;
Adgofiai'r hwyl gadd mewn llawer dawns,
Ac wrth adgofio fe gochai'i grudd;
Ni wyddai Ann am un nefoedd uwch.
Na "mynd" fel ar aden yr awel rydd:
Onid hi oedd brenhines dawns
Yr holl ardaloedd? Gynifer gwaith
Cariodd y gamp mewn gwyl a ffair
Heb golli'i hanadl, na blino chwaith.
Ynni'i hysbryd ymchwyddai'n donn
Drosti wrth gofio y clod a roed
I'w medrusrwydd: prysurai'n gynt,
Prin clywai'r ddaear o dan ei throed!