Pa athroniaeth all ddeongli cyfrin waith Rhagluniaeth Ior?
Pwy olrheinia'r dirgel ffyrdd? a gerdd y llwybrau sy'n y môr?
"Damwain ydoedd," ebe'r ddaear sydd yn ddall i Ddwyfol drefn—
"Damwain" a bwriadau gras a chadarn arfaeth wrth ei chefn!
"Cyd-ddigwyddiad" ydyw olaf air gwybodaeth goeg y byd
Nas gall weld llinellau bwriad Dwyfol ynddo'n cwrdd ynghyd.
Cerddai Ann i lawr yr heol heb i gysgod pen y daith
Bylu gloywder ei gwamalrwydd na thrymhau ei throediad chwaith;
Llongyfarchai ei chydnabod, gwelai eisieu mwy nag un,
"Cynnar eto ydyw'r diwrnod," ebe'r eneth wrthi'i hun,
"Mi gychwynais ddigon bore, cysgodd eraill yn rhy hwyr,
Ond cawn hirddydd i gyd—ddawnsio digon cyn y daw yr hwyr."
Yn y man gwêl rywun draw; siriola gwên ei gwyneb iach―
Hen gyfeilles fu'n cydfyw â hi yn hir yn Nolwar Fach,
Tudalen:Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill.djvu/115
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon