Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'r Ffrwd yn llifo'n gref
Mae'r ffrwd yn llifo'n rhydd, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n rhydd;
A llifed felly'th gariad di
Nes dod yn un a'r eiddof fi,
Cwrdd fel y ffrwd a'r môr a wnawn,
Ac aros fyth yn un a gawn:
Mae'r ffrwd yn llifo'n rhydd, fy mun,
Mae'r ffrwd yn llifo'n rhydd.