Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yna wrth imi wrando
Ces weledigaeth fawr;
O'm hamgylch safai tyrfa
O engyl gwyn eu gwawr:
Pan welais linynnau euraidd
Telynau y sanctaidd lu,
Deallais fod y ddwyfol gân
Yn dod o Gaersalem fry.
Moliant i Dduw drwy'r uchelder,
Chwyddwch y gydgan gref;
Cenwch i'r Hwn sydd yn Geidwad,
Henffych i Frenin Nef.