Llawnach o fwyd a llawenydd—unwaith
Fu ei hen fagwyrydd;
Ond rhoi a eill ein trullydd
A wna tra maen ar faen fydd."
A chyrchu Geraint orug y tirion
Wr hen, a'i annog o'i gyfrwy'n union;
Tywynnu fel.aur hyd hen falurion
Rhwysg ei wehelyth wnai gras ei galon:
Carai fwynder yr arferion—oedd ddrud,
Er difa'i olud, rhwng yr adfeilion.
Hyd risiau têr niferoedd o fynor
I fewn aent ill deuoedd:
Rhwygiedig iawn drig ydoedd,
A phetai waeth, rhyw lofft oedd.
Croesai'r Macwy drothwy'r drig
A meddwl oedd fflam eiddig
Wrth gofio taw dwylaw dyn,—heb arbed,
O dŷ fu hardded a wnaeth dlawd furddyn.
Gwelai hen wraig lana' 'rioed—
Un a'i hwyneb mewn henoed
Yn arwyddo gwawr addien
Ei newydd ne'n ddeunaw oed.
Arall oedd gerllaw iddi,—hardd eilun
A gwir ddelw ohoni
Yn ei gwanwyn, yn gweini,
A chu serch i'w heisieu hi.
Tudalen:Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill.djvu/16
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon