Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Dy anghymwys ddwys bruddhad
Mi a wn, a'th ddymuniad—
Daw i ben pan gred y byd
Wanhau'm hawen a'm hewyd."
"Pa iaith yw hon," eb hithau,—" arglwydd,
Erglyw, ddaw o'th enau?
Dir, ni wn ystyr d'eiriau,—anhydyn
Ydwyf i ddilyn rhawd dy feddyliau."
Ebr ef, gan ei briwio hi:
"Buddiol yw nas gwybyddi."
Rhag ei lid Enid grynnai.
Heb arni fai, mewn braw'n fud;
Deufwy llwfr i'w stafell âi,
Hi a wisgai'n anesgud—
Yn brudd, fel un mewn breuddwyd—
Yn lle harddwisg, lomwisg lwyd.
Cyni'n wir oedd canu'n iach
Lle cofiai well cyfeillach;
Bu wylo yno ennyd,
A gwaedd drwy'r neuadd i gyd.
At Eraint, i'r anturiaeth,
A bryd dwys, yn barod daeth;
"Im', hir," ebr ef, "d'ymaros,
Afraid waith, i'th gyfrwy dos;