O mlaen cerdd, tro lle cudd ych
O lwybr asp a bwystfil brych;
Minnau ar d'ol yn d'olwg
I'm hing af; bydd mwy o ngwg
Arnat, oni fyddi fud,
Gwir wae a ddwg gair ehud;
Clyw di hyn, clo dy enau,
Neu annwn dost gawn ein dau."
Ymaith i'w thaith aeth hithau,
Ni feiddiai ond ufuddhau ;
Ei gwae oedd ddwfn, a'i gwedd hi
Welwach na gwynlliw'r lili
Gyda gorlem drem mor drist—a chystudd,
O ercha' gythrudd y Marchog athrist
Ddilynai'r eiddil Enid,—o'i ddifyr
Oror, a'i fyfyr ar fwy o ofid.
Gan ado'r priffyrdd a'r llwybrau gwyrddion,
Draw y trodd Geraint i'r tiroedd geirwon
Lenwid o ofnau,—i'r glynnau dyfnion
Oedd froydd tryblith, lledrith, a lladron,
A phydewau seirff duon,—cyfeiriodd,
Yno'i nwyd yrrodd ei Enid dirion.
Drysodd trallodus draserch,
Yn nydd siom creulanodd serch.
Tudalen:Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill.djvu/39
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon