Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn wrol Enid flaenorai,—y llwybr
Garw a llaith nis ofnai;
Ei Geraint fwyfwy garai,
Ac er ei fwyn ymgryfhai.

Er cloi'i hiaith, er cael ei arch
Ddig ef nad oedd i'w gyfarch,
Beiddiaw yr holl rybuddion
A niwed nwyd a wnai hon,
O gwelai draw argoel drwg,
A gelyn yn y golwg.

"Dwedaf heb gêl," ebr hi, "doed a ddelo,
Y dua' warth fydd im dewi wrtho;
Oni fyddaf fi iddo fyth yn bur,—
O daw mwy dolur,—Duw im a dalo!
O golli Ngeraint nis gallai ngeiriau
F'amddiffyn wedyn rhag holl ofidiau
Marw mwy gerwin, a gwell i minnau,
O ddwysaf ingoedd ddewis fy angau.
O'i law ef, byddai'm clwyfau—'n ysgafnach,
Ac yn felusach mi gawn fy loesau."

Hyllig wawd dig oedd y tâl
A gafodd am ei gofal,
A bu gwaeth y bygythion
Y doi briw enbyd i'w bron