Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwyrodd uwch ei ben, a garw—iddi oedd
Ei weld ef mor welw;
Ei chariad a wylai'n chwerw—âi pryder
Drwy'i henaid tyner y diwrnod hwnnw.

Ei friw hagr gyda'i dagrau—a olchodd,
Eilchwyl rhoi'i gwefusau
Ar ei fin oer; ei fywhau—o'i wendid
A geisiai Enid â thwym gusanau.

Disber ac enbyd ysbaid—fu iddi,
Ni ddoi i ddofi'i chyni ochenaid
O'i fynwes—dristaf ennyd!—clywai dranc
Yn lleibio ieuanc ffynhonnell bywyd!

O rywle, i le'r alaeth,
Iarll Limwris ddibris ddaeth;
Gwelodd Enid brid mewn braw
A galar yno'n gwyliaw,
Ei ddu ornwyd drodd arni,
Rhwth edrych i'w chwennych hi.

Ei dafod dyhir lefarai'n dirion
Er denu Enid i'w rwydau'n union—
"Awn a'th ŵr o'r fan noeth hon—i'm llys draw,
A phaid ag wylaw, fe gaiff dy galon
Eto lawenydd, atal—dy ddagrau,
A thi gei wenau gloywach i'th gynnal."