Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dan y gwŷdd deiliog hwyliog addolai,
Ir lwyni'r glasdir droai'n eglwysdai;
O arw gerrig ei allor gyweiriai,
A rhan o'i borthiant ar hon aberthai:
O'i enaid salm esgynnai,—ac hyd fawl—
Lwybrau eirianwawl hi bererinai.

Anwel Dad heb ei adwaen
Fawrhai efô ar ei faen.

Yn y man, goleuni mwy—o'r Ne fry,
Yn ei fron deimladwy
A lewyrchodd, treiddiodd trwy
Ddefodaeth oedd ddifadwy.

Ac i wawriad dydd "rhad ras"—bendigaid
Ei wresog enaid roi groesaw gwynias.

Bywhai arianwawr y bore hwnnw
Ei hen ddyhewyd yn newydd hoyw;
Gwelai yn waddol i'w galon weddw
Y tir mwy euraidd tu hwnt i'r marw—
Yr ystâd sydd ynghadw—uwch loesion.
A holl drallodion y llaid a'r lludw.

Y wŷs i Wynfa'r Iesu—wnai i'r Celt
Yn awr cur foliannu;
Llanw ei leddf orfoledd fu—fel cref donn,
Ai hen fro'i gŵynion yn fôr o ganu.