Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae swyn y dwym "Hosanna"—yn eirias
Farworyn yng Ngwalia,
Ac o newydd cyneua—'n fflam cyn hir,
Yr hwyl ail loywir i "Haleliwia."

Ei wir wron, yr arwr
A fawryga ef yw'r gwr
Wahodda yr aniddig
Freuddwydiwr hyf i'r dda drig
Addawodd ei ddyhead
Hwnt ofnau ing—"Tŷ fy Nhad."

Yno'n y wlad sydd yn anweledig
Tàlaf fwriadau'r Celt duwiolfrydig
Gyflawna Nêr, a'i hyder crwydredig
Edwyn briodol Eden buredig:
Ca ei gred anwywedig—fwynhau hedd
O ddwyfol nodwedd ddiddiflanedig.

Yn y fro ddedwydd try'i hen freuddwydion.
Yn gywir bethau, dengar obeithion
Ei gynneddf daniol ga'n addfed wynion,
Ac i'w lawenydd ni thyrr gelynion;
Yno y gwlawia wybrennau gloywon
Fyth mwy eu cynnes faeth i'w amcanion;
Ni cheir yno gur yn mallu'r meillion,
Na drycin wywa geinder caneuon;
Yno ca'i wefus "Gwpan" y cyfion—
Ac O, yn felus bydd gwin nefolion:
Bro'r Oen i'w bererinion—Efe fry
All ei rhoi felly—y wir AFALLON.