Prawfddarllenwyd y dudalen hon
O! Dduw, a oes modd i mi,—er fy mod
Drwy fy mai mewn cyni,
Gael rywdro gyfranogi
O'th ddi—dor beroriaeth Di?
O fywyd i gyd sydd gân!—O! foroedd
Difyrrwch digeulan!
Minnau, drwy glwy Iesu glân,
Af i hwnnw fy hunan.
Hawl uniawn i lawenydd
O'i groes Ef yn gwawrio sydd.
Bywyd Duw, drwy Fab y Dyn—a'i haeddiant,
Etifedda gelyn;
Ei gymod a ddwg emyn,—adnabod
Cywair y Duwdod y mae credadyn.
Estron rydd ei fron i frad,—hwn ni chlyw
Wych alawon cariad;
Ond yn nod ei enwaediad
Ca plentyn delyn ei Dad.
Y "dduwiol anian" a fedd lawenydd
Heibio dirnadaeth hyf pob darnodydd ;
Hedd—gainc wyryfol a ddwg ein crefydd
I loewi nwyfiant y galon ufydd:
Mwynder anthem Salem sydd—yng ngharol
Irder anwywol "creadur newydd."