I gario y maes ar y gormesydd,
I dorri'n ddarnau rwymau'r gorthrymydd,
Rhai na phallai eu ffydd—yn hir auaf
Ac oriau duaf y garwa dywydd.
Uwchlaw clwy eu gwobrwy gânt,
Odlau Ion a delynant.
O'i bur afiaeth, o'i brofiad,—y rhoddir
Iddynt gyfranogiad;
Nod haeddol eu sancteiddiad—a'u rhinwedd
Yw hedd—ogonedd a newydd ganiad.
Acen côr y concwerwyr
Drwy Wynfa'n bêr daran dyrr,
Ac Ior a glyw yn eu cân—wyryfol
Nodau eneiniol ei dannau'i Hunan.
"Iddo Ef," mewn hwyl ddifyr,——cydleisia
Y dorf a rodia ar fôr o wydyr.
Una myrdd telynau mwyn
Y teg lu o seintiau glân,
Yng nghlod y gollyngdod llawn
Gaed drwy ing a Gwaed yr Oen.
Cynyrchu miwsig bendigaid—uchel
Fawl—gerdd achub enaid
Ni all crebwyll ceriwbiaid,—na medrus
Leisiau yr hoffus loyw seraffiaid.
Tudalen:Geraint ac Enid a Chaniadau Eraill.djvu/85
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon