Tudalen:Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth (1931).djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

feistr mawr barddoniaeth Gymraeg—ganu'n iach i'w awen hefyd, a throi ei gefn ar ei iaith. Daeth ei oes drallodus i ben yn 1769, yn New Brunswick—"alltud blin mewn anghynefin ddinas"—a chladdwyd ei weddillion ar lechwedd ymhlith y fforestydd yno.

Ond ymhell cyn ei farw ef yr oedd dawn a dull pennill a chân y werin a'r dafarn—y ddawn a'r dull a gasâi Goronwy â chas perfFaith—wedi eu troi yn gerbydau "clir anfarwol fflam" Williams Pantycelyn, a'r drws wedi ei agor ar wlad newydd barddoniaeth rydd Gymraeg.

—————————————

LLYFRAU AC ERTHYGLAU.

Llythyrau'r Morrisiaid: J. H. Davies.

Barddoniaeth a Llythyrau Goronwy Owen. (Isaac Foulkes, Lerpwl, 1895).

A School of Welsh Augustans: Saunders Lewis. (Hughes a'i Fab, 1924).

Cywyddau Goronwy Owen: W. J. Gruffydd. (Southall, 1907).

Erthygl y Parch. Dr. Hartwell Jones yn Y Ford Gron, Ebrill, 1931.

Erthyglau Mr. T. Shankland yn Y Beirniad, 1914—16.