Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pob dinas yn gyfrol fawr, pob heol yn bennod, a phob hen adeilad yn ddalen yn Gallu i
fwynhau
hanes y wlad a'i gwroniaid; ac nid rhyfedd fod Itali yn gyrchfan pobloedd lawer o bedwar cwrr byd. Ond i fwynhau i bwrpas yr olwg ar y trysorau afrifed sydd i'w canfod ar bob llaw, rhaid wrth wybodaeth eang, a diwylliant arbennig, a sicr yw nad oes ond ychydig o'r miloedd estroniaid ymdyrant i'r wlad bob tymor, yn abl, mwy na minnau, i sylweddoli yn iawn werth hanesyddol y gwrthrychau sydd i'w canfod yno.

Ond er anwybodaeth o'r clasuron, a dieithrwch i hanesyddiaeth y wlad, eto y mae yno destynau fil yn llawn dyddordeb i'r estron mwyaf cyffredin ei wybodaeth a'i gyrhaeddiadau i'w cael yn null y trigolion o fyw, a'u harferion, y rhai sydd mor wahanol i'r eiddom ni yn y wlad hon. Pobl siriol, groesawgar, yw'r Italiaid, eithr ni thybiant yn drais gymeryd mantais ariannol ar estron, yn enwedig os tybiant mai Sais fydd. Cefais awgrym gan gyfaill fod y masnachwyr brodorol yn dueddol i ofyn crogbris gan estroniaid, ond yn cymeryd llai o lawer yn hytrach na cholli Prynnu Ffon. gwerthu. Aethum un bore i brynnu ffon. Gofynwyd i mi ddeg swllt am un; ond wrth fygwth mynd hebddi, cefais hi am ddau swllt! Cawswn un gyffelyb am lai yn