Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y wlad hon. Pobl ddiwyd iawn ydynt,—codant yn fore, ânt yn hwyr i gysgu, a mynych y gofynwn, —Pa bryd y gorffwysant?

Pobl gymedrol a sobr. Yn ystod fy ymdaith yn y wlad, ni welais gynifer ag un o'r trigolion o dan ddylanwad y diodydd meddwol. Gwelais rai dynion yn feddwon iawn, ond un ai Germaniaid neu Saeson oeddynt. Gwin yw prif ddiod y wlad,—gwin coch sur; y mae yn rhatach nag unrhyw ddiodydd ereill. Nid yw Cymedroldeb
y Trigolion
.
yr Italiaid yn yfed er mwyn yfed. Anfynych y gwelir hwy yn yfed heb gymeryd ymborth hefyd. Ym mhob lle y gwerthir diodydd, y mae yno hefyd fwydydd ar werth. Diodydd meddwol ar wahan i fwydydd, yn ddiau, ydyw un o felldithion y wlad hon, a da fyddai i Brydain efelychu rhai o wledydd y Cyfandir yn y cyfeiriad hwn.

Pobl gynnil, ddarbodus, fe ddichon, i fesur mawr, o angenrheidrwydd felly, yw llawer ohonynt; byw y maent gryn lawer ar fara a llysiau a macaroni; defnyddiant olew gyda phob math Ymborth. o ymborth. Ac ond i'r Sais neu Gymro beidio gofyn cwestiynau, eithr bwyta mewn llawn hyder ffydd yr hyn a osodir ger ei fron, y mae y gwahanol fwydydd yn flasus ac iachus, ac yn sicr o fod yn cyfateb yn rhagorol i amodau ac hinsawdd y wlad