Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byddai y diweddar Brifathraw Michael Jones o'r Bala yn arfer dweyd mai yr ymborth mwyaf addas ydoedd cynnyrch naturiol y wlad neu y gymdogaethSylw Michael
Jones o'r Bala.
ei hun. Meddai, "Cyrch dŵf oreu ym Mhenllyn, a haidd yn Edeyrnion, felly bara cyrch i breswylwyr Penllyn, a bara haidd i drigolion Edeyrnion." Dichon y gallasai ychwanegu, gwenith dŵf oreu yn Nyffryn Clwyd; felly bara gwenith i bobl Dyffryn Clwyd.

Pan ar y daith hon, yr oedd gennyf o dan fy ngofal dair boneddiges, ac yr oedd un ohonynt yn methu dygymod â bwydydd yr Italiaid, a dywedai yn fynych, "O, na chawn lond dysgl o lymru, neu faidd, a thafell o fara haidd neu geirch, mi wn beth ydi hwnnw." Y diwedd fu iddi fynd yn bur wael,Y Foneddiges
Gystuddiol.
ac erbyn cyrraedd Rhufain yr oeddwn yn wir bryderus yn ei chylch; ond ni fynnai son am feddyg. "Doctor dieithr mewn lle fel hyn; pwy ŵyr beth 'roith o i mi," meddai; ac yr oeddwn mewn penbleth difrifol.

Gyda'r hwyr, aethum am dro wysg fy mhen, heb wybod i ba le yr oeddwn yn mynd, ond yn rhyw ddirgel ddisgwyl y torrai gwawr yn y man. Wrth rodio ar hyd un o brif heolydd y ddinas, Via Condotti, gwelais fasnachdy fferyllydd â'r enw "Evans" uwch ei ben. "Yn wir," meddwn