Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dacw Gymro," ac i mewn a mi. Gofynnais yn Gymraeg am flwch o " Eli Treffynnon." Edrychai y gŵr yn syn arnaf, ac atebai "Non Inglese,"—dim Saesneg. Welsh," meddwn innau; ac ymaith ag ef o'r neilltu, a chlywn ef yn galw "Signor Evans."

A chyn pen hir dyma borcyn o ddyn bychan, crwn, siriol, ataf. "Good evening," meddai. "Cymro?" meddwn innau. "Cymro am byth," meddai yntau. Gŵr wedi ei eni a'i fagu yng Nghymru ydyw, ond wedi bod Cymro yn
Rhufain.
yn Rhufain bellach ers deng mlynedd ar hugain a mwy. Bu yn hynod o garedig, rhoddodd feddyginiaeth i mi i'r foneddiges wael, ac yn ddiau, drwy rym yr ymwybyddiaeth mai Cymro a'i cymysgodd, yr oedd, er fy llawenydd, wedi mendio yn iawn erbyn bore drannoeth, ac yn barod i fwyta malwod a llyffaint,—os byddai raid.

Camgymeriad o'r mwyaf i deithwyr ymhell o dir eu gwlad ydyw disgwyl nac amcanu cael popeth yr un fath ag a geir gartref. Y sawl all gyfaddasu ei hunan yn ebrwydd at amodau y wlad y bydd ar ymweliad â hi, ydyw y tebycaf i wir fwynhau a derbyn lleshad oddiwrth gyfnewidiad hinsawdd a golygfeydd. "When in Rome, do as the Romans do."

Un peth a'm synnodd yn fawr ydoedd fod llaeth mor ddrud yno, y wlad lle y mae cynifer o wartheg