a charn yr ebol wedi eu trwytho mewn coal tar,— dyna'r peth tebycaf wn i am dano i dybaco Llywodraeth Victor Imanuel.
Peth arall y rhaid i'r teithiwr fod yn ofalus wrth groesi terfynau y wlad ydyw, na bydd ganddo lawer o fflachellau (matches) yn ei feddiant. Ie, matches, y pethau bychain hynny yr ydym ni yn y Matches. wlad hon mor ddibris ohonynt. Fe ddichon pe byddai mwy o bris arnynt, y byddai llai o waith i'r fire brigades ar hyd a lled y wlad; ond yn Itali y mae gwneuthur matches hefyd yn edwicaeth (monopoly) y Llywodraeth. Fedd neb hawl yno i wneud matches ond swyddogion y Brenin. Y mae blwch bychan yn costio ceiniog, y mae y drethnodyn (stamp) sydd arno yn werth hatling, sef y ddegfed ran o'u ceiniog hwy.
Beichus iawn yw y trethi yn Itali. Mewn gair, y mae swm y trethi yno oddeutu y ddegfed ran o werth marchnadol pob nwyddau. Wrth bob mynedfa i dref neu ddinas, y mae swyddfa (octroi) ym mha un y mae swyddogion y Llywodraeth yn gwylio na ddygir dim i mewn o'r wlad nac o unrhyw dref arall, heb dalu toll arno. Un diwrnod, pan yn dychwelyd o dro yn y wlad, gwelwn wrth borth y ddinas wraig a chanddi fasged ar ei braich, ac yn y fasged bum pwys o ymenyn, a 30 o wyau, a rhaid oedd i'r Dogana, sef y swyddog wrth y porth, chwilio i mewn i'w chynnwys, a hawlio, dros yr awdurdodau