waredigaethau a dybiant estynwyd iddynt gan rai o'r seintiau.
Yr oeddwn un prynhawn yn ymdroi yng nghymdogaeth yr Eglwys Gadeiriol yn Palermo, a gwelwn orymdaith anferth o ferched yn cerdded yn araf bob yn bedair, o dan arweiniad hen fynach. Sefais wrth y porth, a chyfrifais ddeuddeg cant o ferched o bob oed, dri o'r gloch ar brynhawn dydd Mawrth, yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth. Aethum innau i mewn i'r addoldy. Pedwar o feibion oedd yn bresennol,—yr offeiriad, a minnau, a rhyw ddau arall. Yr oedd Yr oedd gan bob un o'r merched lyfr bychan tebyg i'r Hyfforddwr, yr hen offeiriad yn gofyn y cwestiynau, a'r dorf o ferched yn cyd-adrodd yr atebion, ac felly am awr o amser, bron na thybiwn fy mod mewn Cyfarfod Ysgolion.
Ychydig o ddynion, mewn cymhariaeth, welir yn mynychu lleoedd o addoliad yn Itali. Y mae yr un peth, i fesur, i'w ganfod yng Nghymru; hynny yw, y mae y chwiorydd yn anhraethol fwy ffyddlawn na'r brodyr i foddion crefyddol Meibion
a Chrefydd.cyhoeddus. Ni fynn y meibion yn Itali yr Anghrist na Christ ychwaith, ysywaeth, i deyrnasu arnynt. Extremes meet; ar un llaw gwelir yma eithaf penboethni coelgrefyddol, ac ar y llaw arall, rhyw ysbryd digofus o amheuaeth ac anghrediniaeth. Y mae yn gyffelyb mewn gwledydd ereill. Lle y c