Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III

CYCHWYNASOM o Lerpwl mewn agerlong ar fore dydd Gwener y Groglith, ac wedi rhai dyddiau o forio blin, daethom i olwg craig enwog Gibraltar. Y mae tref ar y graig hon ag oddeutu 30,000 o bobl yn trigo ynddi, ac yn eu plith 6,000 i 7,000 o filwyr Prydain Fawr. Wrth agoshau at Gibraltar. y graig, ymddengys yn debyg i lew mawr ar ei led orwedd, fel pe yn gwylio môr y Werydd ar y dde, a môr y Canoldir ar y chwith, a gwlad Morocco ar y lan draw, rhyw naw milltir o bellter.

Ar ol y dyddiau blin ac ystormus gafwyd o Lerpwl i Gibraltar, hyfryd oedd cael ein hunain ar fynwes gynnes Môr y Canoldir, ac er fod eira trwchus i'w ganfod yn y pellter ar fynyddau yr Hispaen, heulwen ac awelon tesog a balmaidd gawsom bellach bron yr oll o'r daith. Y porthladd Curs y Daith. cyntaf i ni alw ynddo ydoedd Genoa, ryw 2,500 milltir ar hyd y môr o Lerpwl; oddiyno i Leghorn, yna gyda'r trên i Pisa, wedi hynny i Fflorens, yna i Rufain, wedi hynny i Naples a Pompeii, lle yr oedd y llong yn