Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae plant dynion yn hynod o debyg i'w gilydd ym mhob gwlad,—'does neb, rywfodd, yn hoffi y syniad o'r posibilrwydd iddo gael ei lwyr anghofio. Fe ddichon mai hon yw un o'r elfennau sydd wrth wraidd yr holl helynt, ac yn fynych y gor-helynt ynglŷn â chladdu y marw, a chadw mewn cof yr hyn a fu, gan nad pa mor wael ac annefnyddiol a fu i'w oes a'i genhedlaeth. Y gofadail werthfawroca, wedi'r cyfan, yw honno y sonia Pantycelyn am dani,—

"Gwnaeth ei farwnad yn ei fywyd,
Ni raid marmor ar ei fedd."