gromen (dome) dros 60 llath o uchter, ac yn 35 llath ar ei thraws. Gwahoddir dieithriaid i sefyll o dani, ac os medrant, i ganu llinell neu ddwy.Hen Feibl
Mawr fy Mam.Cefais gan fy mhriod fentro ar y gorchwyl, a chanodd yn fwyn "Hen Feibl Mawr fy Mam," a chyda ei bod wedi dechreu, clywem geinciau perseiniol uwchben, ac o'r bron na ddychmygem fod yno liaws o lu nefol yn y Gromen wedi cipio yr alaw o'i genau, gan ddyblu a threblu fel y medr Cymry ac angylion. Nid ar frys yr anghofiaf y gyngerdd ryfedd honno, a gwelwyd arwyddion amlwg fod ereill yn y gynulleidfa, estroniaid hollol i ni, o dan deimladau dwys. Nid oes dim, wedi'r cwbl, yn debyg i hen alawon tyner a phruddaidd hen "Gymru lân, gwlad y gân," am gyffwrdd â thannau tyneraf y galon ddynol.
Ond rhyfeddod mwyaf yr ardal hon, yn ddiau, ydyw y Tŵr ar Ogwydd (The Leaning Tower of Pisa). Dechreuwyd adeiladu hwn yn 1174, a gorffenwyd yn 1350, felly cymerwyd yn agos i ddau can mlynedd i orffen y gwaith. Y maeY Twr ar
ei Ogwydd.oddeutu tri ugain llath o uchter, a gogwydda dros bedair llath, hynny ydyw, y mae ei gopa yn nes allan dair troedfedd ar ddeg na'i sylfaen, ac y mae wedi bod yn ddirgelwch i adeiladwyr ac arch-adeiladwyr yr oesau pa fodd y cafodd ei adeiladu fel hyn, a pha fodd nad yw wedi dymchwel ers llawer dydd.