Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Goronwy ar Grwydr 1, Italia Dlos.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lle y bu Savonarola a'i ddau gyfaill yn cyfranogi o'r Sacrament Santaidd cyn eu harwain i'r stanc, wrth ba un y llosgwyd hwy yng ngwydd ac yn sŵn crochlefain y dorf fileinig, ac wedi hynny y bwriwyd eu llwch yn ddiystyrllyd i ddyfroedd yr Afon Arno. Trosedd mawr Savonarola yng ngolwg yr awdurdodau ydoedd pregethu yr Efengyl yn ei phurdeb,— ymladd dros egwyddorion rhyddid a chyfiawnder. Erlid arwyr y gwir a fynn y byd ym mhob oes, ac ym mhob cylch. Dyna sydd wir heddyw; os mynn dyn sefyll i fyny dros iawnder a rhyddid, cenfigen ac erledigaeth fydd ei ran. Cyn pen ychydig flynyddau ymledodd y syniadau y dadleuai Savonarola drostynt, nes peri i Rufain ei hunan grynnu hyd ei sylfaeni. Yfwyd yn helaeth o'i ysbryd, a syrthiodd ei fantell ar ysgwyddau mynach ieuanc o'r enw Martin Luther, a chyn hir torrodd gwawr y Diwygiad Protestanaidd. A phwy all ddweyd pa mor ddyledus ydym ni, yng Nghymru lonydd, i ymdrechion y dewr Savonarola bedwar can mlynedd yn ol, am y rhyddid gwladol a chrefyddol a fwynheir gennym heddyw?

Gerllaw saif y Galleria del Uffizzi, lle y ceir y casgliad rhyfeddaf a chyfoethocaf fedd y byd o ddarluniau a cherfluniau. Mewn cwrr arall i'r Piazza hwn, saif y "Loggia de Lanzi," llawn o gerfluniau godidog. Cyfrifir bwä u (arches) yr adeilad hwn yn gynllun perffaith o'r dosbarth yma o adeiladwaith. Math o neuadd agored ydyw y