ydynt ond megis cicaion Jonah o'u cymharu â Colosseum dyddiau Nero greulon. Cyfrifir fod olion ynddo o eisteddleoedd cysurus i 80,000 o bobl. Y mae y llawr y cymerai y campau le arno yn gan llath o hyd, ac yn dri ugain o led. Odditan yr eisteddleoedd y mae y celloedd lle y cedwid y bwystfilod gwylltion yn hwylus wrth law at amcanion y campau creulon. Dyma'r fan y merthyrwyd cannoedd o Gristionogion, drwy eu taflu i grafangau y bwystfilod rheibus, er difyrrwch i'r Y Colosseum. tyrfaoedd penboeth. Byddai yr hynafiaid yn ystyried y Colosseum yn fath o gysgod o fawredd Rhufain, ac yr oedd dywediad yn eu plith,—
"Tra saif y Colosseum, saif Rhufain,
Pan gwymp y Colosseum, cwymp Rhufain,
A phan gwymp Rhufain, cwymp y byd."
Syrthiodd y Colosseum, a dinistriwyd yr adeilad anferth, yn ol pob tebyg gan ddaeargryn, ers mil a mwy o flwyddi. Rhufain hithau a gwympodd, a'i chwymp a fu fawr. Ond ar ei draed y mae y byd hyd yn hyn, ac i bob golwg yn mynd rhagddo.
Ychydig ymlaen tua'r dehau o'r Colosseum, deuwn i'r ffordd lle y dywed Paul i'r brodyr ddyfod i'w gyfarfod hyd Appii Forum a'r Tair Tafarn; ac, Ffordd
Appii Forum. wrth gwrs, danghosir y llecyn gan y brodorion gyda difrifwch a sicrwydd diamheuol. Dywed traddodiad i'r Apostol Pedr ddianc o'r carchar